SL(5)192 - Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) (Cymru) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) 2010 (OS 2010/521) ('Gorchymyn 2010') drwy fewnosod cofnod i Ran 1 o'r Atodlen i'r Prif Orchymyn mewn perthynas ag Awdurdod Refeniw Cymru ('WRA').  Pwrpas y gwelliant hwn yw rhagnodi graddfa'r bobl hynny o fewn WRA (ar raddfa 7 y gwasanaethau sifil neu gyfwerth) a all awdurdodi gweithgaredd at ddibenion adrannau 28 a 29 (ar gyfer defnyddio gwyliadwriaeth gyfeiriedig a ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol) o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.

Y weithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiad technegol i Orchymyn 2010 a fydd yn galluogi person priodol gymwys ar raddfa gwasanaethau sifil gradd 7 neu gyfwerth i roi awdurdodaeth ar gyfer defnyddio gwyliadwriaeth gyfeiriedig a ffynonellau cuddwybodaeth ddynol mewn perthynas â phwerau ehangach WRA ar gyfer ymchwilio i droseddau.  Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi rhesymeg y polisi nad yw'n ymddangos yn afresymol.  Serch hynny, tynnir sylw at y Rheoliadau ar y sail eu bod o bwys cyfreithiol neu wleidyddol neu'n peri materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.  [Rheol Sefydlog 21.3(ii)]

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Dim.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

26 Chwefror 2018